Hyfforddiant Achrededig
Mae cysylltiadau â dau o brif gyrff achredu'r DU gyda ni, er mwyn achredu ein hyfforddiant.
Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM)
ILM yw'r corff dyfarnu mwyaf cydnabyddedig ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth yn y DU ac Ewrop heddiw.
Mae ein Cymwysterau ILM yn cynnwys pob lefel, o arweinyddiaeth tîm i gyfarwyddwr ac mae nifer fawr o opsiynau ar gael, yn dibynnu ar faint eich sefydliad. Mae hyn yn sicrhau bod y cynnwys yn berthnasol i'ch anghenion unigol chi.
Dyma pam bod t2 wedi creu partneriaeth gyda ILM ac yn darparu dewis eang o gymwysterau Arweinyddiaeth a Rheoli achrededig ar draws y Sector busnesau bach a chanolig.
Sefydliad Rheoli Gwerthiannau a Marchnata (ISMM)
Mae'r ISMM yn un o'r cyrff proffesiynol mwyaf blaenllaw ar gyfer gwerthwyr yn y DU.
Mae ein Cymwysterau Achrededig ISMM ar gyfer pobl gwerthiant, ble bynnag y maent yn eu gyrfaoedd o ddechreuwyr llwyr i Gyfarwyddwyr Gwerthiannau mewn corfforaethau rhyngwladol mawr.
'dyn ni wedi gweithio mewn partneriaeth gyda ISMM i sicrhau bod cynnwys ein hyfforddiant gwerthiant yn cael ei gydnabod fel 'World Class' ac i sicrhau bod gwerthiant yn cael ei gydnabod fel gyrfa yn ei rhinwedd ei hun, gyda llwybr gyrfa cydnabyddedig fel llawer o swyddi eraill.
Mae'r holl cyhoeddiadau yma ar gaei yn y cymraeg cysylltwch a ni i'w derbyn.

02920 799 133 




Lefel 2 - 5 ILM
Prentisiaethau Modern ac NVQ