Hyfforddi teilwredig a hyfforddi yn agored i bawb

Mae ein cyrsiau hyfforddi wedi eu teilwra yn ogystal a'r rhai sy'n agored i bawb yn ffyrdd gwych o ddatblygu sgiliau eich pobl mewn ystod eang o feysydd.

Bydd pob rhaglen hyfforddiant wedi ei deilwra'n fanwl at eich anghenion penodol chi, gan un o'n Uwch Hyfforddwyr, naill ai fel rhaglen gyfangwbl bwrpasol neu drwy un o'n rhaglenni hyfforddi safonol.

Os 'dych chi angen datblygu eich sgiliau, heb orfod buddsoddi mewn rhaglen theilwredig, yna mae cwrs agored yn berffaith i chi.

Mae'r holl hyfforddiant yn cael ei gyflwyno mewn ffordd sy'n tapio i mewn i'r meddwl anymwybodol, yn sicrhau profiad dysgu unigryw a rhoi'r gallu i chi ddefnyddio'ch sgiliau newydd, pan fyddwch chi eu gwir angen nhw.

Mae pob rhaglen hyfforddiant yn brofiad dysgu cyflym, yn defnyddio'r arferion gorau a'r syniadau mwyaf diwedd o bedwar ban byd.

Mae'r meysydd sydd ar gael ar hyn o bryd yn deilwredig ac mewn cyrsiau agored i bawb, yn cynnwys:

  • Arweinyddiaeth a Rheolaeth
  • Gwerthu a Gwasanaeth Cwsmeriaid
  • Technoleg Gwybodaeth (IT)
  • Adnoddau Dynol (HR)
  • Effeithiolrwydd Personol

Am restr o'n cyrsiau agored sydd yn dod lan, ac i gael gwybodaeth pellach ar bob cwrs, cerwch i'n calendr yma.

Mae'r holl cyhoeddiadau yma ar gael yn y Gymraeg cysylltwch a ni i'w derbyn.

news

English website

To view this site in English
Click here.

Calendar 2010

calendr 2010

Chwiliwch am gwrs agored, ac am wybodaeth perthnasol.

Case Studies

Astudiaethau Achos

Darllenwch am brofiadau hyfforddiant rhai o'n cleientiaid.

 

Prif Swyddfa: Cardiff Office, Melrose Hall, Cypress Drive, St Mellons, Cardiff, CF3 0EG

Find us on Linkedin Find us on Twitter