Mentora Gweithredol
Mae Hyfforddiant Gweithredol yn gael ei cael ei gyflwyno heb roi cyfarwyddiadau penodol, ond mewn math o bartneriaeth, gyda'r hyfforddwr yn aml yn gweithredu fel seinfwrdd ar gyfer yr unigolyn.
Mae'r broses yn dechrau drwy adnabod yr agenda a'r nodau datblygu, ond, yn fwy aml na pheidio, bydd yr agenda yn newid yn sgil newidiadau amgylchiadau ym myd y cleient.
Mae'r hyfforddwr yn gwneud hyn drwy greu gofod seicolegol, sy'n caniatáu i gyfarwyddwr y cwmni neu weithredwr i gamu nôl oddi wrth y gweithle, ac yna yn darparu perthynas a deialog cefnogol, ond heriol, fel gall y cyfarwyddwr neu'r weithredwr ddysgu oddi ar eu profiadau a'u cymeriadau nhw eu hunan ac o'r dasg o arwain y sefydliad.
Er mwyn llwyddo i gael y datblygiad, y newid ac yn y pen draw y lefel o ddewis sydd ei angen, bydd yr hyfforddwr yn creu profiadau dysgu gwahanol a modelau i effaith y newid hwn, gyda hyblygrwydd y hyforddwr yn fater o bwysigrwydd sylfaenol i'r broses hyfforddi. Bydd hefyd angen contractio cymleth i sefydlu agenda, ac ail-gontractio i gyd-fynd a newidiadau mewn blaenoriaethau a sefyllfaoedd. Bydd natur a nifer y sesiynnau adborth yn cael ei bennu fel rhan o'r contractio.
Materion nodweddiadol:
- Dadansoddiad trylwyr o'r sefydliad fel ag y mae hi ar hyn o bryd, ac o amcanion rheolwyr/arweinyddiaeth, gweithredu personol a strategaeth busnes.
- Adnabod cryfderau a gwendidau mewn perfformiad personol (trwy hunan-fyfyrio a / neu adborth) a datblygu mewn ymateb
- Cynllunio ar gyfer rôl nesaf a nodi anghenion datblygu
- Siartio gyrfa yn y dyfodol dros 1-5 mlynedd
Mae'r holl cyhoeddiadau yma ar gael yn y Gymraeg. cysylltwch a ni i'w derbyn.
- Hyfforddiant Gweithredol
-
Hyfforddiant Gweithredol

02920 799 133 




Hyfforddi Busnes