Hyfforddi i weitho
'Hyfforddi i weitho' yw ein adran hyfforddiant cyflogaeth, yn cynnig ystod o fentrau,i'ch helpu chi i ddod o hyd i waith ac yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo.
'dyn ni'n gweithio gydag ysgolion, cannoedd o gyflogwyr, llywodraeth leol a'r llywodraethau cenedlaethol i wella cyfleoedd cyflogaeth cynaliadwy ar draws y DU.
Hyfforddiant at Waith
Os 'dych chi wedi bod yn ddi-waith am 26 wythnos falle y byddwch yn gymwys i ymuno ag un o'n rhaglenni cyflogaeth, sy'n anelu at roi'r sgiliau sydd eu angen i chi gael swydd.
Adeiladu Sgiliau
Os 'dych chi'n ddi-waith ar hyn o bryd, falle y byddwch chi'n gymwys i ymuno ag un o'n rhaglenni cyflogaeth, sy'n anelu at roi'r sgiliau angenrheidiol i gael swydd.
Hyfforddiant Diogelwch
Os oes diddordeb gyda chi mewn , neu yn gweithio fel, Gard Diogelwch, ac angen trwydded i weithio yn y maes, falle y byddwch chi'n gymwys i dderbyn cyllid i hyfforddi mewn diogelwch .
REACT
Os gaethoch chi eich diswyddo yn y 6 mis diwethaf neu o dan rybudd diswyddo ar y foment, efallai y bydd ganddoch chi'r hawl i dderbyn hyd at £ 2500 i ail-hyfforddi.
Llwybrau 14 – 19
Os yn Ysgol sydd yn edrych i ddatblygu eich cwricwlwm trwy'r Llwybrau 14-19, ni yw'r partner delfrydol i'ch tywys chi trwy hyfforddiant effeithiol galwedigaethol a lleoliadau gwaith.
ffoniwch ni nawr
Cysylltwch â ni drwy ein prif swyddfa 02920 799 133.

02920 799 133 



Mwy



