Llwybrau 14 – 19
Mae Llwybrau 14 – 19 yn fenter unigryw gan Lywodraeth Cymru sy'n galluogi pobl ifanc yn yr ysgol i ennill cymwysterau galwedigaethol genedlaethol a chael blas ar brofiad gwaith yn eu maes gyrfa dewisol gan arwain at cyflogaeth llawn-amser maes o law.
Mae t2 wedi sefydlu perthynas rhagorol gydag ysgolion, fydd yn galluogi ein staff i ddarparu rhan o'r cwricwlwm o flwyddyn 9 ymlaen, gan ddarparu hyfforddiant ystafell ddosbarth yn arwain at gymwysterau cenedlaethol ac hefyd cael blas ar waith gyda chyflogwyr lleol. Y nod pennaf yw galluogi plant sydd ar fin gadael yr ysgol i ddod o hyd i gyflogaeth parhaol, yn union ar ol gadael, ac i gyflogwyr gael dewis o blith staff hyfforddedig bydd yn deall ac yn gallu gweithio'n effeithiol yn eu sefydliad yn barod.
Ar hyn o bryd, cynnigir Llwybrau 14 – 19 yn:
- Gweinyddu Busnes
- Gwasanaeth Cwsmeriaid
- Technoleg Gwybodaeth
- Gofal Blynyddoedd Cynnar

02920 799 133 





Hyfforddiant sy'n Canolbwyntio ar Waith