Adeiladu Sgiliau
Bwriad cynllun 'Adeiladu Sgiliau' yw rhoi cymorth i bobl ddi-waith o bob oedran, i ddatblygu eu sgiliau yn un o'n canolfannau hyfforddi, a chael profiad gwaith gyda chyflogwyr lleol a all arwain at gyflogaeth barhaol.
Mae t2 wedi datblygu nifer eang o gyrsiau hyfforddiant sy'n cael eu gweithredu yn ein canolfannau hyfforddi. Canolbwyntio ar y sgiliau allweddol sy'n ofynnol gan gyflogwyr yw prif ddiben y cynllun hwn.
Drwy gydol cyfnod eu hyfforddiant, bydd unigolion yn mynychu cyfweliadau ar gyfer swyddi amser llawn a rhan-amser gyda chyflogwyr lleol. Mae'r cyflogwyr yn gallu cymryd unigolyn ar brofiad gwaith yn gyntaf i weld os bydd yr unigolyn yn addas ar gyfer eu anghenion, ac yn gymwys ar gyfer y swydd mewn cwestiwn cyn cynnig cyflogaeth llawn neu ran-amser.
Ar hyn o bryd yn cynnigir 'Adeiladu Sgiliau' yn y meysydd canlynol:
- Gweinyddu Busnes
- Gwasanaeth Cwsmeriaid
- Technoleg Gwybodaeth
- Gofal Blynyddoedd Cynnar
- Manwerthu

02920 799 133 





Hyfforddiant sy'n Canolbwyntio ar Waith