Hyfforddiant at Waith
Mae Hyfforddiant at Waith yn fenter newydd sbon sydd wedi ei gynllunio i roi cyfleon hyfforddi mewn sectorau newydd i bobl sydd wedi bod yn ddi-waith am gyfnod helaeth.
Mae'r rhaglen yn para hyd at 26 wythnos, yn cynnwys mynychu ein canolfan hyfforddi newydd, ble y byddwch yn cael y sgiliau angenrheidiol a yn ogystal a chymwysterau achrededig mewn sector o'ch dewis. Gallwch ddewis o blith y meysydd canlynol:
-
Gwasanaeth Cwsmeriaid
Bydd angen i chi gwblhau'r Dystysgrif Dechnegol mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid ar Lefel 2 yn ogystal â sgiliau allweddol mewn Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif a Thechnoleg Gwybodaeth. -
Gwasanaeth Cwsmeriaid
Bydd angen i chi gwblhau'r Dystysgrif Dechnegol mewn Canolfannau Cyswllt ar Lefel 2 yn ogystal â sgiliau allweddol mewn Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif a Thechnoleg Gwybodaeth. -
Canolfannau Cyswllt
Bydd angen i chi gwblhau'r Tystysgrif Technegol mewn Canolfannau Cyswllt ar Lefel 2 yn ogystal â Sgiliau Angenrheidiol Cymru (ESW) mewn Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif a Thechnoleg Gwybodaeth. -
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Bydd angen i chi gwblhau'r Tystysgrif Technegol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar Lefel 2 yn ogystal a Sgiliau Angenrheidiol Cymru (ESW), mewn Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif a Thechnoleg Gwybodaeth. -
Manwerthu (Retail)
Bydd angen i chi gwblhau'r Tystysgrif Technegol mewn Manwerthu ar Lefel 2 yn ogystal â Sgiliau Angenrheidiol Cymru (ESW), mewn Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif a Thechnoleg Gwybodaeth. -
Arwain Tîm a Rheoli
Bydd angen cwblhau Tystysgrif Technegol naill ai Arwain Tîm ar Lefel 2 neu rheoli ar lefel 3 yn ogystal â Sgiliau Angenrheidiol Cymru (ESW) mewn Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif a Thechnoleg Gwybodaeth. -
Gweinyddu Busnes
Bydd angen i chi gwblhau'r Tystysgrif Technegol mewn Gweinyddu Busnes ar Lefel 2 yn ogystal â Sgiliau Angenrheidiol Cymru (ESW) mewn Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif a Thechnoleg Gwybodaeth. -
Gofal Plant
Bydd angen i chi gwblhau'r Dystysgrif Dechnegol mewn Gofal Dysgu a Datblygiadau Plant ar Lefel 2 yn ogystal â sgiliau allweddol mewn Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif a Thechnoleg Gwybodaeth.
Byddwch hefyd yn cael y dewis o gwblhau amrywiaeth o gymwysterau Technoleg Gwybodaeth, yn dibynnu ar brofiad. Gallai hyn gynnwys New CLAIT, CLAIT Plus neu ECDL.
Yn ogystal â helpu chi i gael cymwysterau achrededig, mae Hyfforddi i Weithio yn cynnig dysgu amrywiaeth o sgiliau, fel ysgrifennu CV, cynyddu hunan hyder, gwella cymhwysedd IT a datblygu sgiliau cyfweliad. Bydd ein swyddog lleoliad gwaith wedyn yn gweithio gyda chi i drefnu lleoliad profiad gwaith yn eich sector dewisol.
Bydd angen i chi fynychu dydd Llun i ddydd Gwener 9:00-16:00 yn ein safle yng Nghanol Dinas Casnewydd. Yn ystod y 4 wythnos gyntaf byddwch yn cwblhau sgiliau/cymwysterau cyffredinol ac yn ystod y cyfnod hwn gallwch benderfynu ym mha faes yr hoffech chi i arbenigo ynddo. O hynny ymlaen byddwch yn gweithio tuag at tystysgrif dechnegol yn eich dewis-faes, a dylai hyn gynyddu'r tebygrwydd o sicrhau cyflogaeth barhaol.
Bydd tiwtor medrus a phrofiadol, yn eich arwain chi trwy'r broses ac yn helpu i gyflawni eich nodau personol.
I sicrhau mynediad wedi ei ariannu, ar yr cwrs hyfforddiant hwn, bydd angen i'ch cynghorydd Canolfan Byd Gwaith eich cyfeirio, fodd bynnag os hoffech chi gael sgwrs anffurfiol, gallwch gysylltu â ni ar 01633 264 500 a gofyn am un o aelodau'r tîm fel a ganlyn:
Simon Berry: Rheolwr y Ganolfan
Jennifer Jenkins: Swyddog Lleoliadau Gwaith
Louise Griffiths: Cydlynydd Hyfforddiant

02920 799 133 





Adeiladu Sgiliau